Agenda Ariannol Cyngor Cymuned Harlech - 05/01/26

Gweld yr Agenda Lawn Cyngor Cymuned Harlech, cyfarfod yn yr Hen Lyfrgell ar Ionawr 5, 2026

Yn edrych ar Agenda - 05/01/2026

Agenda

Annwyl Gynghorydd

Ysgrifennaf i ofyn am eich presenoldeb mewn cyfarfod ariannol o’r Cyngor yn yr Hen Lyfrgell, Harlech Nos Lun Ionawr 5ed 2026 am 7.30 o’r gloch. Bwriedir trafod yr Agenda a ganlyn. 

Yn gywir

Annwen Hughes

Clerc

AGENDA

1. Ymddiheuriadau.

2. Cadarnhau cofnodion o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar Ragfyr 1af 2025

3. Materion yn codi o’r cofnodion.

4.    MATERION YN CODI

     a)    HAL – CIC

    b) Panel Cyfrifiad Annibynnol 

     c) Cynllun Cyllideb

     d) Polisi Asesiad Risg y Cyngor

     e) Prosiectau y Cyngor 2026/27

    f) Cyllideb y Cyngor am 2026/27

      g) Precept y Cyngor am y flwyddyn 2026/27

5. Adroddiad y Swyddog Ariannol Cyfrifol

IAnfonebau angen eu talu (hyd at 27.12.25) (up to 27.12.25)                      

Cyllid a Thollad - £110.00 – treth ar gyflog y Clerc

Mr. Phil Price - £440.00 - gwaith IT

Mr. M. J. Kerr - £580.00 - agor bedd y diweddar Mr. Peter Jones

Brown & Wolfe - £1,920.00 - cynllunio gwefan a’I adeiladu

Anfonebau angen eu talu ers y cyfarfod diwethaf

Catrin Soraya Williams – Dim - gwasanaeth cyfieithu

Defib Store Ltd - £154.80 – pad I defib ger Capel Engedi (talwyd 16/12/25)

MATERION A DRAFODWYD AR OL Y PWYLLGOR CYLLID

Ceisiadau cynllunio wedi dod i law (hyd at 27.12.25) 27.12.25)

Cais ôl-weithredol i godi storfa boncyffion pren a beiciau, sied a phorth ceir 

Ivy House, Harlech Ivy House, Harlech (NP5/61/L433A)

Caniatâd Adeilad Rhestredig i amnewid ffenestri a drysau sydd wedi’u difrodi gan storm gyda ffenestri a drysau alwminiwm gwydr-dwbl newydd i gyd-fynd â’r rhai presennol. Coleg Harlech, Harlech (NP5/61/LB3Z)

Tystysgrif Defnydd Cyfreithiol (Presennol) i ddefnyddio’r fflat ar y llawr cyntaf fel Dosbarth Defnydd C5 - Tai annedd a ddefnyddir heblaw fel unig breswylfa neu brif breswylfa ac a feddiannwyd am 183 diwrnod neu lai Plas Flat, Spar Shop, High Street, Harlech (NP5/61/LULB280E)

Gohebiaeth wedi dod i law (hyd at 27.12.25)  27.12.25)

Llywodraeth Cymru – Llythyr ynglyn a gwariant Adran 137 y Terfyn ar gyfer 2026/27

Un Llais Cymru – e-bost ynglyn chyfarfod Pwyllgor Ardal Meirionnydd 

Mr a Mrs Ratcliffe – e-bost yn gofyn am gyfraniad ariannol

Chapters Gymnastics – e-bost yn gofyn am gyfraniad ariannol

Os byddwch angen y linc zoom I’r cyfarfod hwn cysylltwch ar Clerc o flaen llaw

Cynnwys

Agenda Ariannol Cyngor Cymuned Harlech - 05/01/26 Ewch yn ôl i’r holl agendâu
Ysgrifennwyd gan
harlech community council

Annwen Hughes

Clerc Cyngor Cymuned Harlech

Cyswllt
cyCymraeg