Agenda
Ysgrifennaf i ofyn am eich presenoldeb mewn cyfarfod o’r Cyngor Nos Lun Gorffennaf 6ed 2026 yn YR HEN LYFRGELL Harlech am 7.00 o’r gloch. Bwriedir trafod yr Agenda a ganlyn. Bydd cyfarfodydd yn cychwyn am 7.00 o’r gloch fel gall Aelodau o’r cyhoedd amser I ofyn cwestiynau I’r Cyngor ar wahanol faterion a bydd cyfarfod swyddogol y Cyngor yn cychwyn am 7.10 o’r gloch.
Yn gywir
Annwen Hughes
Clerc
AGENDA
1. Ymddiheuriadau
2. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd
3. Datgan Diddordeb
4. Cadarnhau cofnodion o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar Mehefin 1af 2026
5. Materion yn codi o’r cofnodion
6. Materion Cyngor Gwynedd
7. MATERION YN CODI
a) Cynllun Cyllideb
b) HAL – CIC
c) Lansio Adduned Un Llais Cymru Ar Cwrteisi a Parch
d) Cae Chwarae Brenin Sior V a LLyn y Felin
e) Ardoll Ymwelwyr Gwynedd
f) Ethol Cynghorwr
g) Materion a Gynigir
8. Ceisiadau Cynllunio (gweler rhestr amgaedig)
9. Adroddiad y Swyddog Ariannol Cyfrifol
10. Gohebiaeth (gweler rhestr amgaedig) (see attached list)
Ceisiadau Cynllunio wedi dod i law (hyd at 27.06.26)
Tystysgrif Defnydd Cyfreithlon (Presennol) i gadarnhau bod y defnydd wedi newid o ddefnydd cymysg o Breswyl (Dosbarth Defnydd C3) a Bwyty (Dosbarth Defnydd A3) i Breswyl (Dosbarth Defnydd C3) yn unig - Gwalia, Stryd Fawr, Harlech (NP5/61/LU335G)
Caniatâd Arddangos Arwyddion i amnewid yr arwyddion presennol ac arddangos 2 arwydd ffascia wedi ei goleuo, 2 arwydd peilon wedi ei goleuo ac un arwydd peilon heb ei oleuo Garej Toyota, Ffordd Newydd, Harlech (NP5/61/AD20K)
Gohebiaeth wedi dod i law (hyd at 27.06.26)
Parc Cenedlaethol Eryri - Cais am Adborth: Proffiliau Aneddiadau Drafft
Mrs Judith Strevens – e-bost ynglyn ag ysbwriel ar y traeth
Un Llais Cymru – e-bost ynglyn a dyddiadau hyfforddiant Mehefin I Medi
Anfonebau angen eu talu (hyd at 23.05.26) (up to 27.06.26)
Cyllid a Thollad - £109.80 - treth ar gyflog y Clerc
Lee Warwick - £188.10 – glanhau toiledau ger y neuadd goffa.
Lee Warwick - £50.00 - strimio o amgylch y rhandiroedd
Bevan Brittan - £8,881.20 – prosiect cynllun gwesty Harlech
Playsafety Ltd - £438.00 - cwrs diogelwch parciau chwarae (Joe Patton)
Mr. Simon Turner - £48.25 - nwyddau ar gyfer ardduniadau nadolig y Cyngor
Mr. Joe Patton - £34.96 - nwyddau i parc chwarae Llyn y Felin
Mr. Joe Patton - £491.42 - nwyddau i’r ardd gymunedol (allan o gyfrif cae chwarae Brenin Sior)
Anfonebau wedi eu talu ers y cyfarfod diwethaf
Catrin Soraya Williams – £115.00 - gwasanaeth cyfieithu
Os byddwch angen y linc zoom I’r cyfarfod hwn cysylltwch ar Clerc o flaen llaw
