Agenda Cyngor Cymuned Harlech - 05/10/26

Gweld yr Agenda Lawn Cyngor Cymuned Harlech, cyfarfod yn yr Hen Lyfrgell ar 5ed Hydref 2026

Yn edrych ar Agenda - 05/10/2026

Agenda

Annwyl Gynghorydd

Ysgrifennaf i ofyn am eich presenoldeb mewn cyfarfod o’r Cyngor Yn yr Hen Lyfrgell Harlech ar Nos Lun Hydref 5ed 2026 at am7.00 o'r gloch. Bwriedir trafod yr Agenda a ganlyn Bydd cyfarfodydd yn cychwyn am 7.00 o’r gloch fel gall Aelodau o’r cyhoedd amser I ofyn cwestiynau I’r Cyngor ar wahanol faterion a bydd cyfarfod swyddogol y Cyngor yn cychwyn am 7.10 o’r gloch.

Yn gywir

Annwen Hughes

Clerc

AGENDA

1. Ymddiheuriadau

2. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

3. Datgan Diddordeb

4. Cadarnhau cofnodion o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar Medi 7ed 2026

5. Materion yn codi o’r cofnodion

6. MATERION YN CODI

a) Cynllun Cyllideb    

b)    HAL – CIC

    c) Cae Chwarae Brenin Sior V a LLyn y Felin

    d) Grant Arwyddion    Grant Arwyddion

    e) Gwefan Visit Harlech ar Cyngor Cymuned    Gwefan Visit Harlech ar Cyngor Cymuned

     f) Materion a Gynigir

    g) Adroddiadau Is-Bwyllgorau – Cyllid, Ardal Gwyrdd, Biomrywiaeth, Isadeilad, Projectau, Digwyddiadau

7. Ceisiadau Cynllunio (gweler rhestr amgaedig)

8. Adroddiad y Swyddog Ariannol Cyfrifol

9. Gohebiaeth (gweler rhestr amgaedig) (see attached list)                                                                

10. Materion Cyngor Gwynedd

Ceisiadau Cynllunio wedi dod i law (hyd at 26.09.26)

Tystysgrif Defnydd Cyfreithlon (Presennol) ar gyfer defnyddio eiddo sy'n dod o dan Dosbarth Defnydd C5 (Tai annedd, a ddefnyddir at ddibenion heblaw fel prif breswylfa neu breswylfa unigol)- Llys Ioan, 5 Porkington Terrace, Harlech (NP5/61/LUL293A)

Gohebiaeth wedi dod i law (hyd at 26.09.26)

Cyngor Gwynedd – e-bost ynglyn a Ymgynghoriad Rhwydwaith Teithio Llesol

Anfonebau angen eu talu (hyd at 26.09.26) (up to 26.09.26)                      

G. L. Jones Playgrounds - £21,060.00 – offer newydd yn cae chwarae Brenin Sior

Cyllid a Thollad - £110.00 - treth ar gyflog y Clerc

Mr. Joe Patton - £120.41- ad-daliad eitemau I’r ardd gymunedol (allan o gyfrif cae chwarae Brenin Sior)

Anfonebau wedi eu talu ers y cyfarfod diwethaf

Catrin Soraya Williams – £135.00 - gwasanaeth cyfieithu

Blachere Illuminations - £1,182.48 - goleuadau nadolig (talwyd 11.9.26)

Os byddwch angen y linc zoom I’r cyfarfod hwn cysylltwch ar Clerc o flaen llaw

Cynnwys

Harlech Community Council Agenda – 05/10/26 Ewch yn ôl i’r holl agendâu
Ysgrifennwyd gan
harlech community council

Annwen Hughes

Clerc Cyngor Cymuned Harlech

Cyswllt
cyCymraeg